Immersive Schools - galwad perfformiwr/hwylusydd

Rydym yn chwilio am 2 Hwylusydd/Perfformiwr Gweithdai i weithio gyda ni ym mis Awst/Medi eleni ar brosiect trochi cyffrous, unigryw, a CHYFRINACHOL IAWN i bobl ifanc.

Ni allwn ddweud llawer am gynnwys y prosiect, ond bydd yn cynnwys gweithio gyda phlant ysgol gynradd (blynyddoedd 3-6), gan gyflwyno cynlluniau gwersi sy'n bwydo i naratif ehangach.

Byddwch yn cyflwyno 2 neu 3 gwers fer y dydd, fel rhan o'r diwrnod ysgol.

Byddwch chi yn eich rôl drwy gydol cyflawni'r prosiect, ac yn cynnal byd y profiad bob amser.

Bydd y rolau'n gymharol realistig a chynnil - dydyn ni ddim yn sôn am ffantasi na ffuglen wyddonol.

Bydd yr oriau wedi'u canoli o amgylch y diwrnod ysgol, tua 8am i 3pm (mae hyn yn cynnwys amser ar gyfer dadfriffio dyddiol pan fo angen)



Proses

Bydd yna 3 diwrnod o baratoi/ymarfer i ddysgu'r cynlluniau gwersi a byd y prosiect.
Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan 2 wythnos ar wahân o gyflwyno/perfformio.

Pwy yr ydym yn edrych amdanynt

Rydym yn edrych am bobl sydd â'r sgiliau a'r profiad canlynol:

Gofynnol:

  • Profiad o weithio gyda phobl ifanc oedran cynradd.

  • Profiad o ddysgu a chyflwyno cynllun gwers ar eich pen eich hun.

  • Profiad o berfformio a gwaith byrfyfyr.

Yn ddelfrydol:

  • Siaradwr Cymraeg

Atodlen
  • Dyddiad/amser cau - 5pm dydd Gwener 25 Gorffennaf
  • Dyddiad cyfweliadau'r Panel - Dydd Iau 31 Gorffennaf
  • Dyddiadau ymarferion - Diwedd Awst-Medi
  • Dyddiadau perfformiadau - Wythnos 8 a 22 Medi
How to Apply

Anfonwch atom ni: