Skip to main content

National Theatre Wales

Dewislen
  • Chwilio
  • Gweithgaredd
  • Addysg
  • Newyddion a straeon
  • Cysylltwch â ni
  • Rhestr bostio
English

Loading...

Anna Arrieta

Rwy'n gerddor wedi fy lleoli yng Nghaerdydd, a hefyd yn Bennaeth Prosiectau a Datblygiad yn It's My Shout Productions Ltd CIC, cwmni cynhyrchu ffilm annibynnol a chynllun hyfforddi i bobl ledled Cymru.

Rwy'n arbenigo mewn prosiectau celfyddydau creadigol, gan gefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial trwy gyfryngau creadigol. Trwy fy ngwaith yn y trydydd sector, rwy' wedi cael cyfle i arwain llawer o brosiectau yn ymwneud â chefnogi pobl ifanc gyda chyngor am allu ariannol ac ynni, dod â phobl ifanc ynghyd i ddathlu treftadaeth Cymru, a phrosiectau ac ymgyrchoedd gwleidyddol, gan ymgysylltu pobl ifanc mewn democratiaeth.

Rwy' wrth fy modd yn grymuso pobl trwy greadigrwydd, ac yn ddiweddar cynhyrchais gyfres o raglenni dogfen byr a ddarlledwyd ar BBC Cymru Wales.

Unigolyn ar ben bryn gwyrdd gyda golygfa o'r dirwedd oddi tano. Maen nhw'n cymryd hunlun ac yn edrych ar y camera. Maen nhw'n gwisgo siwmper goch a sgarff gwallt du gyda phatrymau arno.

Mwy o Dudalennau'r Safle

  • Cyfleoedd
  • Y Wasg
  • Hygyrchedd

Tudalennau Cyfreithiol

  • Polisi preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Polisi cwcis
  • Map y safle
  • Instagram
  • Facebook
  • YouTube

Print Mân

National Theatre Wales ©2025 · Rhif cofrestredig y cwmni: 6693227 · Rhif cofrestredig yr elusen: 1127952.

Gwefan gan Supercool.