The City Socials

Mae The City Socials yn ddigwyddiad rheolaidd a gynhelir gan TEAM. Lle i wneuthurwyr, crewyr, meddylwyr a'r rhai sy'n caru'r theatr, y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol ddod at ei gilydd, profi gwaith newydd a siarad am bynciau sy'n bwysig iddyn nhw.

Lle i ddarganfod: mae pob digwyddiad yn cael ei arwain gan berfformiad newydd gan un o'r artistiaid preswyl a gefnogir gan TEAM. Cyfle i'r gynulleidfa fod ymhlith y cyntaf i weld gwaith newydd.

Lle i ymgysylltu: mae pob digwyddiad yn cynnal sgyrsiau rhyngweithiol, creadigol am y diwydiannau creadigol a'r celfyddydau. Lle i ddod at ein gilydd, rhannu ein problemau, ein meddyliau a'n syniadau.

Lle i gysylltu: Bydd digon o amser i rwydweithio gyda chyfoedion ac artistiaid o bob cwr o'r diwydiant yn ystod pob noson. Amser i gwrdd â'ch cymheiriaid gwych o bob cwr o'r diwydiant, a gwneud cysylltiadau newydd.

Coming Up


Legacy