Telerau ac Amodau
Telerau ac Amodau
Gwybodaeth am y cwmni
Mae TEAM Collective Cymru yn gofrestredig yng Nghymru a Lloegr Rhif 6693227.
Y cyfeiriad cofrestredig: yw TEAM Collective Cymru, Tramshed Tech, Unit D, Pendyris St, Caerdydd, CF11 6BH
Mae TEAM Collective Cymru yn elusen gofrestredig, Rhif 1127952
Ffôn: +44 (0)29 2252 8171 / E-bost: admin@nationaltheatrewales.org.
Gwefan TEAM Collective Cymru
TEAM Collective Cymru sy’n berchen ar wefan TEAM Collective Cymru ac yn ei rheoli. Mae TEAM Collective Cymru yn ymroddedig i’r safon a’r ansawdd uchaf. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu gwybodaeth gywir wrth ei chyhoeddi, nid yw TEAM Collective Cymru yn gwarantu cywirdeb yr wybodaeth ar y wefan hon nac yn derbyn unrhyw atebolrwydd ar gyfer unrhyw golled, difrod neu anghyfleustra a achosir o ganlyniad i ddibyniaeth ar y fath wybodaeth.
Er bod TEAM Collective Cymru yn cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar ei chyfer gan drydydd partïon yn gywir ac nid yn ddifrïol nac yn sarhaus, ni all reoli’r cynnwys na chymryd cyfrifoldeb am dudalennau a gynhelir gan ddarparwyr allanol, na thudalennau cysylltiedig.
Mae gan y defnyddiwr gyfrifoldeb llawn am ddiogelu ei system gyfrifiadurol ei hun, gan gynnwys caledwedd a meddalwedd gyfrifiadurol a data wedi’i storio ar ei gyfrifiadur gan gynnwys caledwedd, meddalwedd a data wedi’i storio gan drydydd partïon a all gael mynediad i system gyfrifiadurol y defnyddiwr neu gysylltu â hi mewn ffordd arall.
Bydd gan y defnyddiwr gyfrifoldeb llawn am sicrhau nad yw rhaglenni neu ddata arall a lawrlwythir na dderbynnir mewn ffordd arall o’r wefan hon yn cynnwys firysau, mwydod, ceffylau Caerdroea neu eitemau niweidiol eraill.
Bydd TEAM Collective Cymru yn cymryd camau rhesymol i sicrhau na chaiff trydydd partïon gael mynediad heb ganiatâd i’r data a drosglwyddir yn electronig i TEAM Collective Cymru ac a gaiff ei storio gan TEAM Collective Cymru trwy’r wefan neu mewn ffordd arall yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 1998 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2018.
Bydd y defnyddiwr yn derbyn y risg y gall trydydd partïon, heb ganiatâd TEAM Collective Cymru, ryng-gipio neu gael mynediad i’r data a drosglwyddir yn electronig i TEAM Collective Cymru trwy’r wefan hon neu mewn ffordd arall a’i ddefnyddio’n anghyfreithlon gan y fath drydydd partïon heb ganiatâd.
Ni fydd TEAM Collective Cymru yn rhoi rhybuddion ynglŷn â diogelwch, ansawdd na gwedduster unrhyw wefan y gellir cael mynediad iddi trwy’r wefan hon ac ni fydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am y cynnwys nac am unrhyw golled neu ddifrod a achosir neu yr honnir iddo gael ei achosi gan ddefnyddio neu ddibynnu ar yr wybodaeth a geir ar y fath wefannau neu ar nwyddau neu wasanaethau a brynir o’r rhain. Mae gwefannau cysylltiedig y gellir cael mynediad iddynt trwy’r wefan hon yn wefannau annibynnol nad oes gan TEAM Collective Cymru unrhyw reolaeth arnynt, boed hynny’n rheolaeth ariannol, olygyddol neu o unrhyw fath arall, ac nid yw TEAM Collective Cymru yn eu cymeradwyo mewn unrhyw ffordd.
Archebu
Darllenwch ein Gwybodaeth Archebu i gael manylion am archebion ac ad-daliadau.
Diogelu data
Mae TEAM Collective Cymru wedi ymrwymo i sicrhau diogelu'r holl wybodaeth bersonol sydd dan ein gofal, ac i ddarparu a diogelu data o'r fath. Mae TEAM Collective Cymru yn gofrestredig yn unol ag amodau Deddf Diogelu Data 1998 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2018.
Caiff yr wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi ar ein ffurflen gofrestru ar-lein ei chadw’n ddiogel ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben arall ar wahân i ni gysylltu â chi trwy e-bost am ddigwyddiadau a hyrwyddiadau TEAM Collective Cymru oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni anfon gwybodaeth atoch gan sefydliadau eraill.
Dolenni i wefannau allanol
Bydd dolenni ar y wefan hon yn arwain i wefannau eraill nad oes gennym reolaeth arnynt. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan gysylltiedig. Ni ddylid ystyried bod rhestru a darparu dolen i wefan yn cymeradwyo’r wefan honno mewn unrhyw ffordd ac nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am y cynnwys. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym reolaeth ar argaeledd y tudalennau cysylltiedig.
Diogelu yn erbyn firysau
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o’r broses gynhyrchu. Mae bob amser yn beth call i chi redeg rhaglen wrth-firws ar yr holl ddeunydd a lawrlwythir oddi ar y rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled, difrod nac ymyrraeth â’ch data nac eich system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd a geir o’r wefan hon.
Cwcis
Pecynnau gwybodaeth yw cwcis sy’n cael eu hanfon gan weinyddion gwe i borwyr gwe a’u storio gan y porwyr gwe. Yna caiff yr wybodaeth ei hanfon yn ôl i’r gweinydd bob tro mae’r porwr yn gofyn am dudalen gan y gweinydd. Mae hyn yn galluogi gweinydd gwe i nodi ac olrhain porwyr gwe. Os nad ydych yn gwybod beth yw cwcis, neu sut i’w rheoli neu eu dileu, gallwch fynd i About Cookies am arweiniad manwl. Cewch ragor o wybodaeth ynghylch ein Polisi Cwcis fan hyn.