TEAM Exchange

TEAM Exchange yw ein hymrwymiad parhaus i ddemocrateiddio'r celfyddydau yng Nghymru, ac mae wedi'i drwytho drwyddi draw yn ein gwaith.

O'r sgyrsiau rydyn ni'n eu cynnal, i ddigwyddiadau ymgynghori creadigol, i sesiynau adborth Ymchwil a Datblygu - rydyn ni wedi ymrwymo i roi llais i weithwyr creadigol a chymunedau Cymru mewn ffordd sy'n ysbrydoli cysylltiad ac yn arwain ein hegwyddorion ein hunain.

Yn y pen draw, ein TEAM Exchange yw unrhyw beth sy'n creu sgwrs. Byddan nhw'n rhan o bopeth a wnawn, a byddwch chi'n eu gweld nhw'n cael eu hamlygu fel rhan o wahanol ddigwyddiadau'n gyson. Yn cynnig lle i siarad, i wrando ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd.

Drwy’r cyfnewidiadau hyn, byddwn yn parhau i feithrin perthnasoedd cryf ar draws y sector, gan ddod â phobl ynghyd, dysgu gan gymunedau a thyfu gyda’n gilydd fel pobl greadigol, gweithwyr proffesiynol a bodau dynol.


Etifeddiaeth TEAM Exchange