The Collectives
The Collectives
Fel rhan o ymrwymiad TEAM Collective Cymru i ddemocrateiddio'r celfyddydau, rhan ganolog o'i genhadaeth yw galluogi cydweithio creadigol gyda'n Collectives a rhyngddynt.
Yn eistedd wrth wraidd yr hyn a wnawn, maen nhw'n ysbrydoli'r gwaith a wneir, y ffyrdd y mae'r sefydliad yn datblygu a'n hymgysylltiad â chymunedau. Drwy’r gwaith maen nhw’n ei wneud gyda ni, mae aelodau pob Collective yn cael eu cefnogi mewn ffyrdd pwrpasol i ddatblygu a thyfu’n broffesiynol ac yn greadigol.
Mae gan y Young Collective a'r Community Collective eu rhaglenni eu hunain o weithgarwch unigryw, pob un yn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer croesbeillio a dysgu ar y cyd. Ar ddiwedd pob cam o weithgarwch, bydd aelodau'r ddau grŵp yn dod at ei gilydd fel TEAM Collaborate, i gyd-greu prosiect mawr sy'n rhoi'r dasg iddynt o amlygu pŵer gweithgarwch gwaelodol o fewn cymunedau.
Mae'r cydweithfeydd hyn yn rhedeg mewn cylch dwy i dair blynedd sy'n meithrin datblygiad creadigol, ymgysylltiad cymunedol ac yn cefnogi un o amcanion pwysicaf TEAM CC - democrateiddio'r celfyddydau yng Nghymru.







