Young Collective

Mae YOUNG Collective yn dwyn ynghyd artistiaid, perfformwyr a phobl greadigol newydd rhwng 18 a 28 oed o Gymru.

Yn ystod eu dwy flynedd cânt gynnig mentora gan TEAM CC, ochr yn ochr â chyfleoedd ledled Cymru i ddatblygu eu sgiliau trwy fentrau fel cysgodi artistiaid, enciliadau creadigol a gweithdai proffesiynol. Maent yn datblygu fel cydweithfa trwy gyfarfodydd creadigol rheolaidd sy'n helpu i arwain eu datblygiad eu hunain yn ogystal â gwaith TEAM CC.

Maent yn gweithio gyda'i gilydd i ddod yn 'gwmni' yn eu rhinwedd eu hunain, gan gydweithio i greu a chynhyrchu Ymchwil a Datblygu diwedd blwyddyn. Caiff hyn ei ddatblygu'n sioe/cynhyrchiad llawn ar ba bynnag ffurf y mae'r Young Collective yn ei dewis, ar ddiwedd rhaglen weithgarwch yr ail flwyddyn.

Tymor 2024-2025

Wedi'i chefnogi gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd, Sefydliad Esmée Fairbairn a Sefydliad Noel Coward.