Community Collective

Mae ein TEAM Collective yn grŵp o artistiaid, actifyddion, crewyr ac athrawon sy’n gweithredu fel ein llygaid a’n clustiau yng Nghaerdydd ac yn ein helpu i gysylltu â chymunedau ar draws y ddinas a thu hwnt.

Dros y flwyddyn nesaf, mae’r grŵp yn cynnal digwyddiadau, gweithgareddau a thrafodaethau i ddarparu cyfleoedd i ystod eang o bobl gymryd rhan yn ein gwaith ac ymgysylltu â’r celfyddydau.


Tymor 2024-2025

// Fe'i gelwid yn TEAM Collective ar y pryd

Wedi'i chefnogi gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd a Sefydliad Esmée Fairbairn.