About Somewhere over the bay Bro

Mae Somewhere Over the Bay Bro yn stori am gymuned, teulu, colled a chysylltiad.

Dyma stori am fenyw a adawodd ei chymuned yn Tiger Bay ym 1945 ac sy'n dychwelyd heddiw i ganfod bod croeso iddi o hyd. Mae'r ddrama'n ymchwilio i farwolaeth cymuned trwy alaru am ei thad ac yn archwilio beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i deimlo nad oes lle tebyg i gartref.

Yn cynnwys cast o sêr o Butetown, Somewhere Over the Bay Bro yw ateb yr artist Kyle Legall i The Wizard of Oz trwy lens Tiger Bay.

Noson ffrwydrol o gerddoriaeth i'w chofio.
Yn syth o galon cymuned Tiger Bay.

Ymunwch â ni ar Noson Tân Gwyllt yn nhafarn Eli Jenkins am noson yn dathlu cerddoriaeth y sioe, wedi'i phlethu â barddoniaeth a darnau o'r sgript.

Anthony Drumtan Ward - Mae'r artist reggae eithriadol yn cyflwyno'r Over the Bay Bro Band, gyda'r anhygoel Nadia Griffiths yn arwain ac yn cynnwys y dalent arbennig sef Anthony Carera neu Wella, yr athrylith Joel ar yr allweddellau, Adjua syfrdanol ar y bas, Sadie hudolus ar y cyrn a'r cyfan wedi'i gyflwyno'n fedrus gan yr arbennig Ali Goolyad.

Bydd y gerddoriaeth o stori Kyle, Somewhere over the bay Bro, hefyd ar gael i'w lawrlwytho ar-lein. Ar gael i'w glywed cyn bo hir. Mae Kyle yn argymell gwrando ym Mae Caerdydd - gan fwynhau'r stori, y gymuned a'r hanes.

Dewis dyddiadau ac archebu

  • Archebu nawr