Skip to main content

National Theatre Wales

Dewislen
  • Chwilio
  • Gweithgaredd
  • Addysg
  • Newyddion a straeon
  • Cysylltwch â ni
  • Rhestr bostio
English

Loading...

hi/ei

Alice Rush

Cynhyrchydd Datblygiad Creadigol

Helo! Rwy'n cefnogi artistiaid - mae'n swnio'n hynod o syml ond dyna ni mewn gwirionedd! Rwy'n cynhyrchu ac yn rheoli'r holl weithgareddau amrywiol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu artistiaid ledled Cymru. Mae hyn yn amrywio o gynlluniau lleoli ar gyfer artistiaid sy’n dod i’r amlwg, egin gomisiynau ar gyfer prosiectau newydd, digwyddiadau rhwydweithio i annog cydweithrediadau newydd, ac yn hollbwysig, cyfarfod ag artistiaid i glywed beth rydych am i ni ei wneud.

Rwyf am wneud yn siŵr bod y celfyddydau yn eu cyfanrwydd yn fwy teg a hygyrch. Rwy’n credu’n gryf mewn ymrwymo i ddatblygiad hirdymor artistiaid ac agor cymaint o ddrysau â phosibl i dalent ar ddechrau eu gyrfa a thalent sy'n dod i'r amlwg. Rwy'n mwynhau defnyddio fy set sgiliau fy hun er mwyn grymuso a llwyfannu artistiaid eraill.

Gallaf helpu i’ch cysylltu ag artistiaid eraill, pobl greadigol, cynhyrchwyr, rhaglenwyr ac ati. - unrhyw un yr hoffech ei gyfarfod. Rwy'n fwy na hapus i fod yn giwpid artistig! Gallaf hefyd roi cyngor ar brosiectau penodol; boed hynny yn eich camau nesaf efallai, adborth ar sgript/perfformiad, neu dim ond sgwrs gyffredinol. Gallwch hefyd gysylltu â mi os oes gennych syniadau ar gyfer sut y gall NTW wasanaethu artistiaid yn well yn eu datblygiad.

Rwy'n ymwneud â sicrhau bod y diwydiant yn lle tecach i fodoli, hyrwyddo llwybrau cynaliadwy ar gyfer datblygu artistiaid, cael hwyl a chysylltu ag eraill.

Cysylltwch â ni

Mae Alice yn dysgu Cymraeg - ac am i'w ddisgrifiad fod ar gael yn Gymraeg. Mae hi yn hapus i roi cynnig ar sgwrsio yn Gymraeg, ond yn gofyn i chi fod yn amyneddgar ag hi wrth iddi ddysgu.

E-bostiwch fi
Unigolyn gyda gwallt oren hyd ysgwydd a sbectol, yn gwenu ar y camera.

Mwy o Dudalennau'r Safle

  • Cyfleoedd
  • Y Wasg
  • Hygyrchedd

Tudalennau Cyfreithiol

  • Polisi preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Polisi cwcis
  • Map y safle
  • Instagram
  • Facebook
  • YouTube

Print Mân

National Theatre Wales ©2025 · Rhif cofrestredig y cwmni: 6693227 · Rhif cofrestredig yr elusen: 1127952.

Gwefan gan Supercool.