Danny Muir & Duncan Hallis
Talking workshop at The City SocialsDanny Muir
Mae Danny yn Rheolwr Llwyfan Technegol ac yn Dechnolegydd Creadigol sy’n ymwneud â llawer o bethau rhyfedd a rhyfeddol sy’n cymylu’r ffin rhwng perfformio a realiti mewn gofodau ffisegol a digidol.
Duncan Hallis
Mae Duncan yn gyfarwyddwr, yn ymarferydd creadigol ac yn wneuthurwr theatr arobryn. Mae’n gwneud pethau o bob lliw a llun, gan gynnwys: theatr gig, profiadau ymdrochol, cabaret, syrcas, bwrlesg, celf perfformio, a hyd yn oed ambell ddrama. Mae'n arbenigo mewn perfformio cyfranogol sy'n cymylu'r ffin rhwng y llwyfan a'r gwyliwr.
Mae Duncan yn dda iawn am godi pethau â'i draed.