Skip to main content

National Theatre Wales

Dewislen
  • Chwilio
  • Gweithgaredd
  • Addysg
  • Newyddion a straeon
  • Cysylltwch â ni
  • Rhestr bostio
English

Loading...

Francesca Dimech

Actor-gerddor dwyieithog yw Francesca Dimech a aned ac a fagwyd yng Nghaerdydd mewn teulu Eidalaidd-Maltaidd. Mae hi wedi bod wrth ei bodd yn ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth ers ennill ei heisteddfod ysgol gyntaf yn chwarae’r glockenspiel yn bedair oed. Ers hynny, mae Francesca wedi bod yn chwarae gitâr, trwmped, bas, harmonica, acordion a chanu gydag amrywiaeth o fandiau lleol o amgylch Cymru, y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Mae rhai o’i phrosiectau cerddorol presennol yn cynnwys The School (Elefant Records), Quiet Marauder (Bubblewrap Records), a’i sioe gomedi/cabare/gwrth-werin, Francesca’s Word Salad (Rose Parade Recording Company).

Cyfunodd Francesca gerddoriaeth a theatr am y tro cyntaf ar ôl ymddangos yn Rude: A Ska Musical (Give It A Name Theatre) yn 2010 a 2012. Yn y blynyddoedd ers hynny, mae hi wedi gweithio ar gynyrchiadau fel West Side Story, Our House: The Madness Musical, Enough is Enough ac ar y teledu mewn rhaglenni y cynnwys Keeping Faith, Louder is Not Always Clearer, Duty’s Veil, Pobol y Cwm, Amser Maith Yn Ol a The Pursuit of Love. Mae Francesca hefyd yn gweithio fel artist trosleisio, tiwtor Cymraeg ac is-deitlydd teledu.

Dyma lun pen-ymlaen o unigolyn sy'n edrych at y camera. Mae ganddyn nhw wallt tonnog hir ac maen nhw'n dal trwmped sy'n cael ei bwyntio at y camera. Mae'r golau yn las a choch ac mae yna effaith mwg.

Mwy o Dudalennau'r Safle

  • Cyfleoedd
  • Y Wasg
  • Hygyrchedd

Tudalennau Cyfreithiol

  • Polisi preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Polisi cwcis
  • Map y safle
  • Instagram
  • Facebook
  • YouTube

Print Mân

National Theatre Wales ©2025 · Rhif cofrestredig y cwmni: 6693227 · Rhif cofrestredig yr elusen: 1127952.

Gwefan gan Supercool.