Skip to main content

National Theatre Wales

Dewislen
  • Chwilio
  • Gweithgaredd
  • Addysg
  • Newyddion a straeon
  • Cysylltwch â ni
  • Rhestr bostio
English

Loading...

hi/nhw

Izzy Rabey

Cyfarwyddwr theatr/ffilm, hwylusydd a chrëwr cerddoriaeth cwiar yw Izzy Rabey ac mae’n dod o’r canolbarth.

Hi oedd y Cyfarwyddwr dan Hyfforddiant cyntaf o Gymru yn The Royal Court Theatre (2020-2021) a bu’n Artist Cyswllt yn y Pentabus Theatre Company (2021-2022).

Yn 2023, fe wnaethon nhw ennill Gwobr Selar am gyfraniad at gelfyddydau Cymru ac ymgyrchu diwylliannol. Mae Izzy wedi cyfarwyddo gwaith i The Royal Court, English Touring Theatre Company, Paines Plough, Theatr Clwyd, The Pleasance, National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru, Underbelly Edinburgh a Theatr y Sherman.

Mae hi’n rapio yn Gymraeg, yn canu ac yn ysgrifennu geiriau caneuon. Mae Izzy hefyd yn golofnydd i Golwg, y cylchgrawn wythnosol Cymraeg, ac mae hi’n parhau i hwyluso prosiectau ym maes croestoriadedd a hunaniaeth Gymreig yng Nghymru ac yn Llundain.

Tyrd i gwrdd ag Izzy Rabey, cyfarwyddwr Feral Monster

Unigolyn â gwallt glas llachar hir, sy'n binc ar ei ben. Maen nhw'n gwisgo colur lliwgar o amgylch eu llygaid a gwisg liwgar.

Mwy o Dudalennau'r Safle

  • Cyfleoedd
  • Y Wasg
  • Hygyrchedd

Tudalennau Cyfreithiol

  • Polisi preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Polisi cwcis
  • Map y safle
  • Instagram
  • Facebook
  • YouTube

Print Mân

National Theatre Wales ©2025 · Rhif cofrestredig y cwmni: 6693227 · Rhif cofrestredig yr elusen: 1127952.

Gwefan gan Supercool.