Julia Harris & Sarah Valentin
The Sustainable Studio foundersAm y 15 mlynedd diwethaf, mae sylfaenwyr The Sustainable Studio, Sarah a Julia, wedi bod yn canolbwyntio ar weithio gyda sefydliadau llawr gwlad sy'n cynrychioli'r cymunedau BAME a LBTQIA+.
Maent wedi cael y fraint o addysgu a meithrin talent ifanc drwy gyflwyno cyrsiau byr hygyrch mewn ffasiwn a dylunio, yn ogystal â rhaglennu gweithgareddau sy'n ymwneud â phroses y diwydiant, gan gynnwys sioeau ffasiwn, mannau gwerthu, hunan-hyrwyddo, datblygiad personol, a llunio syniadau entrepreneuraidd.
Mae cynaliadwyedd wrth wraidd popeth maen nhw'n ei wneud, o greu dillad o fewn eu brand ffasiwn araf Dati Clothing, gan gynnwys cydweithio â grwpiau cymunedol lleol fel Welsh Ballroom, a phrosiectau ailgylchu gyda chymuned greadigol De Cymru. Mae cynaliadwyedd hefyd yn bryder allweddol o ran sut mae Sarah a Julia yn rhedeg y stiwdio, ac maen nhw'n ystyried pob penderfyniad yn ofalus, gyda'r nod o leihau effaith y gofod a'u harfer creadigol ar yr amgylchedd ar y cyd.