Justin Cliffe
Cynhyrchydd RelayHelo
Rwy'n gwneud theatr; ar lwyfannau ac mewn mannau eraill. Rwy'n gwneud hyn oherwydd fy mod yn meddwl nad oes llawer o bethau mwy pwerus na phrofiad a rennir a digwyddiad byw. Yn TEAM Collective Cymru byddaf yn parhau i wneud gwaith, tra hefyd yn cefnogi artistiaid ar ddechrau eu gyrfa i archwilio gwaith newydd. Gyda ffocws ar gefnogi artistiaid sy'n dod i'r amlwg sy'n teimlo eu bod yn cael eu tangynrychioli yn y sector, rydw i'n barod i gyfarfod, sgwrsio a darganfod a all NTW gefnogi'ch uchelgais a'ch syniadau, a sut.
Mae popeth da yn dechrau gydag uchelgais a syniadau, ac rwy'n hoffi bod yn rhywun sy'n helpu pobl i ddarganfod sut i gyfuno'r ddau beth hynny. Wrth imi barhau i wneud gwaith sy'n cysylltu pobl mewn ffyrdd unigryw, rwyf am gefnogi eraill i wneud yr un peth. Trwy gyd-greu, newid, gwneud, cyfathrebu a rhoi cynnig arni, gallwn wneud i bob math o bethau rhyfeddol ddigwydd.