Skip to main content

National Theatre Wales

Dewislen
  • Chwilio
  • Gweithgaredd
  • Addysg
  • Newyddion a straeon
  • Cysylltwch â ni
  • Rhestr bostio
English

Loading...

fe/ei

Justin Teddy Cliffe

Cynhyrchydd Creadigol

Helo

Rwy'n gwneud theatr; ar lwyfannau ac mewn mannau eraill. Rwy'n gwneud hyn oherwydd fy mod yn meddwl nad oes llawer o bethau mwy pwerus na phrofiad a rennir a digwyddiad byw. Yn TEAM Collective Cymru byddaf yn parhau i wneud gwaith, tra hefyd yn cefnogi artistiaid ar ddechrau eu gyrfa i archwilio gwaith newydd. Gyda ffocws ar gefnogi artistiaid sy'n dod i'r amlwg sy'n teimlo eu bod yn cael eu tangynrychioli yn y sector, rydw i'n barod i gyfarfod, sgwrsio a darganfod a all NTW gefnogi'ch uchelgais a'ch syniadau, a sut.

Mae popeth da yn dechrau gydag uchelgais a syniadau, ac rwy'n hoffi bod yn rhywun sy'n helpu pobl i ddarganfod sut i gyfuno'r ddau beth hynny. Wrth imi barhau i wneud gwaith sy'n cysylltu pobl mewn ffyrdd unigryw, rwyf am gefnogi eraill i wneud yr un peth. Trwy gyd-greu, newid, gwneud, cyfathrebu a rhoi cynnig arni, gallwn wneud i bob math o bethau rhyfeddol ddigwydd.

O fewn fy rôl fel Cynhyrchydd Creadigol, byddaf yn cefnogi artistiaid sy’n dod i’r amlwg sy’n byw yng Nghaerdydd, ac sy’n teimlo nad oes cynrychiolaeth ddigonol iddynt yn y celfyddydau. Gall 'dod i'r amlwg' olygu llawer o bethau gwahanol, felly chi sydd i benderfynu os a sut y gallech fod yn dod i'r amlwg. Nid oes angen i chi fod wedi cael unrhyw hyfforddiant ffurfiol na phrofiad penodol, rydym yn awyddus i gysylltu â phobl sy'n rhagweld y bydd ganddynt ddyfodol yn y theatr, neu sydd â stori/ennyd/teimlad/profiad y maent am ei rannu ag eraill, a hynny nawr.

I mi, mae theatr yn ymwneud â risg a phrofiad a rennir. Pan fydd yn gweithio, mae'n ein cysylltu mewn ffyrdd na all ffurf arall ar gelfyddyd ei wneud.

Cysylltwch â ni

Nid yw Justin yn siarad Cymraeg, ond roedd am i'w ddisgrifiad fod ar gael i'w ddarllen yn Gymraeg.

E-bostiwch fi

Mwy o Dudalennau'r Safle

  • Cyfleoedd
  • Y Wasg
  • Hygyrchedd

Tudalennau Cyfreithiol

  • Polisi preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Polisi cwcis
  • Map y safle
  • Instagram
  • Facebook
  • YouTube

Print Mân

National Theatre Wales ©2025 · Rhif cofrestredig y cwmni: 6693227 · Rhif cofrestredig yr elusen: 1127952.

Gwefan gan Supercool.