Skip to main content

National Theatre Wales

Dewislen
  • Chwilio
  • Gweithgaredd
  • Y City Socials
  • Y Collectives
  • TEAM Exchange
  • Addysg
  • Rhestr bostio
English

Sharon Gilburd

Gyd-Gadeirydd

Dwi’n strategydd digidol sydd wedi gweithio ers bron i ddau ddegawd gyda busnesau sefydledig a busnesau newydd i drawsnewid eu ffyrdd o weithio, trwy gymhwyso dylunio a thechnoleg ddigidol. Mae fy chleientiaid wedi cynnwys Visa, Orange a Barclaycard.

Yn wreiddiol o Glasgow, cefais magu yn Shetland cyn mynychu’r brifysgol yng Nghaeredin lle cefais fy recriwtio i weithio i Sefydliad Masnach y Byd yng Ngenefa a datblygais i gariad am ystadegau a ieithoedd.

Yn fwy diweddar, astudiais i MA mewn Dychymyg Cymhwysol yn y Diwydiannau Creadigol yn Central St Martin’s a phenodwyd fi Gadeirydd Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nghymru (corff hyd braich i Lywodraeth Cymru). Cymraeg yw fy mhrosiect dysgu iaith diweddaraf; mae byw mewn cymununed cefnogol iaith Gymraeg rhan fwyaf yn helpu’n fawr gyda hyn.

Dwi wir yn edrych ymlaen at weithio fel cyd-Gadeirydd gyda Yvonne. Mae’n gret bod ganddon ni’r cyfle i ddod â phrofiadau’r ddwy o ni i’r rôl. Mae’r talent a’r ymrwymiad ar y Bwrdd presennol ac ar draws tîm NTW yn anhygoel. Dwi wedi treulio 6 mis diwethaf yn Ymddirieodolwr a dwi rwan yn edrych ymlaen at fy rôl yn cyflawni’r amcanion ar gyfer NTW a Chymru dros y blynyddoedd nesaf.

Unigolyn â gwallt melyn hir, yn gwisgo top du ac yn gwenu ar y camera.

Mwy o Dudalennau'r Safle

  • Cysylltwch â ni
  • Straeon
  • Cyfleoedd
  • Y Wasg

Tudalennau Cyfreithiol

  • Polisi preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Polisi cwcis
  • Map y safle
  • Instagram
  • Facebook
  • YouTube

Print Mân

National Theatre Wales ©2026 · Rhif cofrestredig y cwmni: 6693227 · Rhif cofrestredig yr elusen: 1127952.

Gwefan gan Supercool.