News Story
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod ar daith arwyddocaol - yn pontio o National Theatre Wales i TEAM Collective Cymru, sefydliad newydd gyda safbwynt, delfrydau a chynlluniau ffres ar gyfer y dyfodol. Mae wedi bod yn gyfnod o newid, creadigrwydd, her a gwydnwch go iawn. Rydym yn hynod falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi helpu i lunio'r bennod newydd hon.
Dros y misoedd diwethaf, mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi ymgymryd ag ailstrwythuro strategol hanfodol gyda'r nod o sicrhau dyfodol cynaliadwy hirdymor i'r elusen.
Gwyddom fod y blynyddoedd diwethaf wedi cynnwys pontio sylweddol, ac nid yw'r cam nesaf hwn yn cael ei gymryd yn ysgafn. Fodd bynnag, yn y cyd-destun presennol, credwn mai dyma'r camau gweithredu cyfrifol. Ein nod yw amddiffyn craidd ein cenhadaeth a rhoi TEAM Collective Cymru yn y sefyllfa gryfaf bosibl ar gyfer y dyfodol.
Gyda hyn mewn golwg, gwnaed penderfyniad ynghylch sut mae angen i'n sefydliad a'i rolau esblygu wrth symud ymlaen. Mae'r newid hwn yn nodi ein symudiad tuag at strwythur mwy ystwyth â ffocws. Mae'r penderfyniad wedi'i wneud gyda phwrpas, gan osod TEAM Collective Cymru mewn sefyllfa dda i barhau i gyflawni effaith greadigol ledled Cymru — gan gefnogi artistiaid, pobl ifanc a chymunedau, a chysylltu lleisiau trwy gydweithio, perfformio a'r celfyddydau.
Hoffem ddiolch i Naomi Chiffi (Cyfarwyddwr Cydweithio) am ei gwaith yn TEAM Collective Cymru yn ystod y cyfnod pwysig hwn o bontio. Mae Naomi wedi arwain a chefnogi nifer o'n prosiectau creadigol, gan gynnwys Ysgolion Trochol, gan ymgysylltu â phobl ifanc ledled Caerdydd, a helpu i gryfhau cydweithio, creadigrwydd ac ymgysylltiad cymunedol, gan arwain ar gydweithfeydd TEAM ac Ifanc. Mae ei hangerdd a'i hymrwymiad ar draws ei gwaith fel rhan o TEAM a blynyddoedd blaenorol yn National Theatre Wales yn rhywbeth y bydd y cwmni bob amser yn ddiolchgar amdano.
'Ar ôl un ar ddeg o flynyddoedd bythgofiadwy, rwy'n gadael TEAM Collective Cymru â chalon drom. Mae wedi bod yn fraint meithrin artistiaid a phrosiectau a chydweithio â chymunedau, ysgolion a phobl greadigol ledled Cymru a thu hwnt. Rwy'n parhau i gael fy ysbrydoli gan y rhai sy'n hyrwyddo mynediad at y celfyddydau a diwylliant fel hawl i bawb. Gyda diolch i CCC am gefnogi TEAM o fewn etifeddiaeth NTW - rwy'n falch o fy rhan yn ei daith ac yn llawn cyffro o ran cydweithio yn y dyfodol. Diolch i bawb am bopeth.'- Naomi Chiffi
Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn dymuno pob llwyddiant haeddiannol i Naomi yn ei dyfodol.
Ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
TEAM Collective Cymru

