Skip to main content

National Theatre Wales

Dewislen
  • Chwilio
  • Gweithgaredd
  • Addysg
  • The City Socials
  • Newyddion a straeon
  • Cysylltwch â ni
  • Rhestr bostio
English

Loading...

Ashley McAvoy

Artist preswyl yn The City Socials

Mae Ashley McAvoy yn artist, cerddor a storïwr rhyngddisgyblaethol sy'n byw yn Ne Cymru.

Mae ei ymarfer yn symud rhwng treftadaeth, theatr, a pherfformiadau byw, gan gyfuno cerddoriaeth, y gair llafar, a delweddau tafluniadol i archwilio themâu lle, myth, ac ecoleg.

Fel cynhyrchydd arddangosfeydd amgueddfa, datblygodd Ashley sioeau cenedlaethol a rhyngwladol mawr ar draws celf, archaeoleg, hanes cymdeithasol a gwyddorau naturiol. Mae'n cael ei gydnabod am greu profiadau trochol, dwyieithog sy'n rhoi blaenoriaeth i ddehongli, dylunio naratif ac adrodd straeon ar y cyd.

Ochr yn ochr â'r gyrfa guradurol hon, mae Ashley wedi rhyddhau albymau a senglau ac wedi teithio'n helaeth yn y DU ac Ewrop fel cerddor mewn bandiau ac ar ei ben ei hun. Mae ei gerddoriaeth yn rhychwantu alt-roc, post-roc, gwerin-seicedelia, a'r blues sinematig, ac mae'n parhau i lywio ei ymarfer amlddisgyblaethol.


Mwy o Dudalennau'r Safle

  • Cyfleoedd
  • Y Wasg
  • Hygyrchedd

Tudalennau Cyfreithiol

  • Polisi preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Polisi cwcis
  • Map y safle
  • Instagram
  • Facebook
  • YouTube

Print Mân

National Theatre Wales ©2025 · Rhif cofrestredig y cwmni: 6693227 · Rhif cofrestredig yr elusen: 1127952.

Gwefan gan Supercool.