The City Socials: Moments
About The City Socials: Moments

Mae TEAM CC yn falch iawn o'ch gwahodd i ddiwrnod o weithdai a sgyrsiau creadigol ar gyfer artistiaid, gweithwyr llawrydd a gweithwyr proffesiynol creadigol. Taniwch eich syniadau drwy weithgarwch â ffocws sy'n edrych ar adeiladu eich pecyn cymorth, eich cysylltu â'ch cymunedau a mynd â'ch syniadau i'r lefel nesaf.
Sylwer //
- Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gyfyngu i 30 o leoedd, a bydd angen i gyfranogwyr lenwi ffurflen gais ar-lein er mwyn sicrhau lle.
- Rydym yn annog gwneuthurwyr theatr, artistiaid, pobl greadigol a gweithwyr llawrydd ar bob lefel o'u gyrfa i wneud cais.
- Ni fydd y cais yn cymryd mwy na phum munud.
- Mae'r cais i'w gael ar waelod y dudalen hon.
Nodyn Mynediad //
Mae pob sesiwn yn cynnwys disgrifiad byr mewn italig o sut y bydd a sut y bydd yn teimlo. Yng nghyd-destun y disgrifiadau hyn, mae 'ffocws' yn golygu 'y ffocws arnoch chi fel unigolyn'.
Mae ffocws isel yn golygu eich bod chi'n parhau i fod yn rhan o grŵp mwy.
Mae ffocws canolig yn golygu y gellid gofyn i chi siarad.
Mae ffocws uchel yn golygu y gellid gofyn i chi arwain.
Mae ffocws dewisol yn golygu y gallwch chi ddewis.
Gweithdai
Creu Lle i Deimlo'n Ysbrydoledig // 10:10am - 10:45am
Mae'r diwrnod yn dechrau gyda sesiwn ysgafn, ymlaciol wedi'i chynllunio i'ch cysylltu â'r diwrnod. Trwy cymysgedd o weithgareddau, y nod fydd rhyddhau tensiwn, ailosod ffocws, a gwahodd ysbrydoliaeth ffres ar gyfer gweddill y dydd.
Dechrau ychydig yn gorfforol, ffocws isel, ysgafn a myfyriol.
Wedi'i hwyluso gan Sara Sirati
Cyflwyniad i'r diwrnod // 10:45am - 11am
Cofrestru, trosolwg a chyfle i gwrdd â'r grŵp.
Sesiwn siarad ffocws canolig, fydd yn hwyliog a chwim.
Wedi'i hwyluso gan Justin Cliffe
Labordy Syniadau // 11am - 12:30pm
Rhannu yn dri grŵp; mae Labordai Syniadau yn ffordd fwriadol anffurfiol a chydweithredol o archwilio syniad creadigol newydd.
Gan weithio gyda phobl greadigol eraill, dan arweiniad hwylusydd profiadol, byddwch yn rhannu ac yn dadansoddi eich syniadau wrth gasglu adborth, anogaeth a chysylltiadau a allai eich helpu i symud ymlaen.
Sesiwn gydweithredol hwyliog, cyflymder canolig gyda ffocws dewisol.
Wedi'i hwyluso gan Kay R. Dennis, Justin Cliffe, Cata Lindegaard.
Cinio // 12:30pm - 1:30pm
Bwyta, ymlacio a sgwrsio.
Mae cinio’n hollol flasus, yn hollol fegan, am ddim ac yn cael ei ddarparu gan Pie Box.
Sgwrs Gyda… Lleoedd Sy'n Cefnogi Twf // 1:30pm - 2:50pm
Lleoedd a Diwylliannau Annibynnol
Beth sy'n digwydd pan rydyn ni'n ei wneud ein hunain (DIO). Mae Sarah a Julia yn rhannu'r hyn sydd ei angen i greu cymunedau, ymarfer cydlyniant, a dilyn eich greddf.
Gyda Julia a Sarah o The Sustainable Studio
Gweithio o'r Ymylon
TBA
Rhoi Cynllun ar Waith // 2:50pm - 3:50pm
Mae pob gwaith da yn dechrau gydag ysgogiad ac o syniadau bach gall cysyniadau mawr dyfu… ond sut? Mae'r sesiwn hon yn ymwneud â gwneud cynllun, o lunio glasbrint, nodi angen, adeiladu tîm, ysgrifennu cais, a'r camau eraill sy'n gysylltiedig. Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar y camau ymarferol ar lawr gwlad i fynd â'ch syniad o sbardun i realiti.
Sesiwn eistedd a gwrando ar gyflymder canolig gyda ffocws dewisol trwy holi ac ateb.
Gyda Justin Cliffe o TEAM Collective Cymru
Dianc i'r Dyfodol // 3:50pm - 4:30pm
Sesiwn fyfyriol i'r grŵp cyfan i rannu mewnwelediadau a myfyrdodau o'r diwrnod. Munud i fyfyrio, ymgysylltu a dianc i'r dyfodol trwy osod rhai bwriadau i chi a'ch gwaith.
Wedi'i hwyluso gan Justin Cliffe a Sara Sirati
Dod â'r Diwrnod i Ben // 4:30pm - 5:00pm
What’s The WiFi Password? Perfformiad gan yr Artist preswyl The City Socials, Rachel Greer
Gwneud cais
Gallwch wneud cais yma (insert link) neu drwy'r botwm archebu nawr ar frig y dudalen hon. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am eich cais llwyddiannus erbyn (insert date).